Y gemau Olympaidd – Yr Olympics Rhufain – 1960 Abebe Bikila




Yüklə 9.26 Kb.
tarix21.04.2016
ölçüsü9.26 Kb.

Y Gemau Olympaidd – Yr Olympics


Rhufain – 1960

Abebe Bikila


  • Tybed faint ohonoch chi sydd wedi clywed am Abebe Bikila?




  • Ganwyd Abebe Bikila yn 1932, yn Ethiopia. Roedd ei dad yn fugail, ac i helpu’r teulu penderfynodd Abebe ymuno â’r fyddin, a cherddodd i Addis Ababa, prif ddinas Ethiopia, lle dechreuodd wasanaethu fel milwr cyffredin (Preifat).



  • Tra’n Addis Ababa sylwyd bod Abebe’n redwr talentog, ac yn 1960 ychwanegwyd ef funud olaf at dîm Olympaidd Ethiopia oedd ar eu ffordd i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Rhufain. Roedd yn mynd i redeg yn y Marathon.




  • Am ei fod yn hwyr yn cyrraedd Rhufain, doedd gan Adidas (y noddwr esgidiau) ddim un pâr o sgidie rhedeg oedd yn ffitio Abebe'n gyfforddus. Cwpl o oriau cyn y ras, penderfynodd Abebe Bikila ei fod am redeg yn droednoeth, am mai dyna’r ffordd roedd o wedi arfer beth bynnag.



  • Er nad oedd e wedi arfer rhedeg ar hyd heolydd/lonydd tarmac a ‘cobbestones’ caled Rhufain, enillodd y ras mewn amser o ddwy awr, 15 munud ac 16 eiliad.



  • Ar ôl y ras, gofynnwyd i Abebe pam roedd o wedi rhedeg yn droednoeth. Atebodd yntau, "Roeddwn am i’r byd i wybod bod fy ngwlad, Ethiopia, wedi ennill oherwydd dyfalbarhad ac arwriaeth."



  • 40 diwrnod cyn Gemau Olympaidd 1964 yn Tokyo, cafodd Abebe ei gludo i'r ysbyty lle cafodd ei ddiagnosis o ‘acute appendicitis’. Cafodd lawdriniaeth yn syth, a dechreuodd loncian yn yr ysbyty yn ystod y nos er mwyn gwella’n gyflym.




  • Er i Abebe deithio i Tokyo, doedd neb yn disgwyl iddo gystadlu. Ond fe wnaeth! Gorffennodd y marathon mewn amser record byd newydd o 2 awr 12 munud ac 11 eiliad. Fe oedd yr athletwr cyntaf i ennill y marathon Olympaidd ddwywaith. Pan aeth yn ôl i Ethiopia cafodd ei groesawu fel arwr.




  • Bu farw Abebe Bikila yn Addis Ababa yn 41 oed yn 1973, o ‘brain haemorrhage’ yn dilyn damwain ddifrifol a gafodd 4 mlynedd ynghynt. Aeth 75,000 o bobl i’w angladd yn Addis Ababa a chyhoeddodd yr Ymerawdwr Haile Selassie ddiwrnod cenedlaethol o alaru am eu harwr cenedlaethol.




  • Mae pobl yn gallu bod yn enwog iawn, iawn am gyfnod byr. Ar un adeg roedd Abebe Bikila ar flaen tudalennau newyddion ar draws y byd. Yn Ethiopia mae’n dal i fod yn arwr cenedlaethol heddiw – er fod y cof amdano’n dechrau gwanio yno hyd yn oed. Yma yng Nghymru does fawr o neb wedi clywed sôn amdano – er ei fod wedi cyflawni camp rhyfeddol.




  • Rydyn ni’n dueddol i feddwl fod enwogrwydd yn para am byth – ond dros dro’n unig mae pobl yn enwog, a wedyn ....dim byd. Mae nhw’n heneiddio neu farw, ac ymhen rhai blynyddoedd does na fawr o sôn amdanyn nhw.




  • Pam mae Iesu Grist yn wahanol? Pam fod y sôn amdano yn dal i ledaenu ar hyd a lled y byd? O America i Tsieina, o Ynysoedd Fiji i’r Congo, o Lesotho i Tajikistan - mae hanes Iesu yn lledaenu i bobman yn ein cyfnod ni.




  • Er bod Iesu wedi marw ar y groes yn 33 mlwydd oed, nid dyna oedd diwedd y stori. Adeg y Pasg mae Cristnogion yn dathlu’r atgyfodiad – sef fod Iesu wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw, ac mae Cristnogion yn dathlu’r ffaith ei fod yn fyw am byth yn y nefoedd.

Yn y Beibl mae Ioan yn dweud,


Gwnaeth Iesu lawer o bethau eraill hefyd. Petai hanes pob un ohonyn nhw yn cael ei gadw, dw i ddim yn meddwl y byddai’r byd i gyd yn gallu dal yr holl lyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu! (Ioan 21:25)
Mae Iesu’n wahanol iawn i holl bobl enwog y byd. Bydd e’n parhau i fod yn enwog am byth!
Gweddïwn:

Gweddi’r Arglwydd, “Ein Tad.....


[Gwyliwch Abebe Bikila yma]




GJenkins


Verilənlər bazası müəlliflik hüququ ilə müdafiə olunur ©azrefs.org 2016
rəhbərliyinə müraciət

    Ana səhifə